Mae dyn 47 oed wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen llys ynadon wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes 89 oed yn y Rhyl.
Ymddangosodd George Norman Johnson o’r Rhyl o flaen Llys Ynadon Llandudno.
Fe fydd yn wynebu Llys y Goron Caernarfon yn ddiweddarach.
Daethpwyd o hyd i gorff Florence May Habesch yn ei chartref yn y Rhyl ddydd Mawrth. Mae’n debygol ei bod hi wedi marw ddydd Sul.
Fe ddangosodd archwiliad post-mortem iddi ddioddef anafiadau i’w phen.