Elin Jones
Mae Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, wedi canmol y gwasanaethau achub a’r gwasanaethau brys yn dilyn eu hymateb effeithiol i’r llifogydd sydd wedi cael gymaint o effaith ar gymunedau yn Aberystwyth a’r ardal heddiw.

“Roedd graddfa’r llifogydd mewn cymunedau yng ngogledd Ceredigion dros nos yn annisgwyl,” meddai Elin Jones, “ac rwy’n cymeradwyo ein gwasanaethau achub a brys lleol am y modd effeithiol y maent wedi ymateb i’r sefyllfa heriol hon.

“Rydym yn meddwl hefyd am y rheiny y bu’n rhaid iddynt adael eu cartrefi a’u carafanau yn sgil y llifogydd – yn enwedig wrth iddynt ddychwelyd i’w heiddo i wynebu golygfeydd trist o ddifrod.

“Ar adegau fel hyn, mae pobl Ceredigion wastad yn dangos ysbryd cymunedol, ac roedd i’w weld yn glir heddiw eto wrth i ni ddelio gyda’r llifogydd a’u heffeithiau”.