Mae glaw trwm yng Ngogledd Ceredigion dros nos wedi achosi problemau mawr yn yr ardal gyda’r gwasanaethau brys yn achub pobl o ddau faes carafanau ac o’u cartrefi ym mhentref Talybont.
Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru fod 11 o bobl wedi cael eu hachub o faes carafanau Mill House rhwng Llandre a Borth a bod 20 o bobl wedi cael eu hachub o faes carafanau Riverside yn Borth.
Roedd tri o bobl wedi cael eu hachub gan hofrennydd o faes carafanau Riverside meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. “Mae llawer o ddŵr yn llifo drwy’r maes carafanau,” meddai.
Roedd llifogydd difrifol wedi digwydd yn Nhalybont, meddai, gyda 25 o gartrefi wedi cael eu heffeithio.
Dywedodd perchennog maes carafanau Riverside, Steven South, am wyth o’r gloch bore ma fod y gwersyllwyr i gyd yno wedi cael eu hachub. Roedd yr amgylchiadau mor anodd roedd hyd yn oed criw’r bad achub wedi gorfod cael eu hachub gan hofrennydd yr RAF, meddai.
Mi wnaeth y tywydd garw achosi dipyn o drafferthion yng Nghymru ddoe.
Bu’n rhaid canslo Sioe Sirol Ceredigion ac Aberystwyth ac mi gafodd cystadleuaeth Cwpan Slalom Canŵio’r Byd ym Mae Caerdydd hefyd ei gohirio.
Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd y rasys yn cael eu cynnal heddiw.
Mi roedd dipyn o fwd i’w weld ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri yng Nglynllifon ddoe, ac yn achosi i geir sglefrio yn y meysydd parcio.