Anni Llŷn o Aelwyd y Waun Ddyfal, Caerdydd, ydi enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Merch fferm o San Mellteyrn yn Llŷn ydi hi’n wreiddiol, ac mae’n un o wynebau cyfarwydd rhaglenni plant Stwnshar S4C.

“Mae yna gariad at eiriau wedi bod yno erioed,” meddai Anni. “Wnes i ddim sylweddoli cymaint o’n i’n mwynhau creu llenyddiaeth, a chymaint yr oedd yn fy ysbrydoli, nes i mi wneud modiwl Ysgrifennu Creadigol yn y brifysgol.

“Mi ges i flas ar sgwennu, ac mi ges i fy synnu cymaint o’n i’n gallu ei wneud efo pinsiad o ddychymyg a llwyaid go lew o greadigrwydd geiriol. Ers hynny,” meddai, “mae mynd ati i sgwennu yn gwneud i mi deimlo’n llawn ysbryd.

“Dw i wedi cael addysg dda ar hyd fy oes ac wedi cael athrawon bendigedig. Mae’n rhaid i mi ddiolch i bawb yn Ysgol Pont y Gof, Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion-Dwyfor, ac wrth gwrs y staff yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, am eu gwaith a’u cefnogaeth.”

Yn ail am y Goron y mae Elen Gwenllian Hughes o Eifionydd, gyda Gwenno Elin Griffith, Aelwyd Gwrtheyrn, Llŷn a Guto Dafydd, hefyd o Lŷn, yn gydradd drydydd.