Y delweddau camera cylch cyfyng
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i farwolaeth Nikitta Grender eisiau dod o hyd i bedwar person gafodd eu ffilmio gan gamerâu cylch cyfyng ar fore y llofruddiaeth.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n credu fod gan y pedwar wybodaeth hanfodol ynglŷn â llofruddiaeth y ferch feichiog.

Daw’r newyddion diweddaraf wrth i lys ynadon ganiatáu 36 awr ychwanegol i’r heddlu gwestiynu dyn gafodd ei arestio ddydd Mercher.

Roedd diffoddwyr tân wedi cael hyd i gorff Nikitta Grender, 19 oed, ar ôl tân yn ei fflat ar ystad Broadmead Park, yn Llyswyry, Casnewydd, am 7.50 fore Sadwrn 5 Chwefror.

Datgelodd yr heddlu nos Sul ei bod hi wedi ei thrywanu a daeth i’r amlwg wedyn ei bod hi wedi marw cyn i’r tân gynnau.

Arestio cyfyrder

Roedd Nikitta Grender a’i chariad Ryan Mayes, 18, wedi symud i mewn i’r fflat chwe mis yn ôl ac wedi addurno ystafell ar gyfer eu merch Kelsey-May.

Arestiodd yr heddlu gyfyrder Ryan Mayes, Carl Whant, 26, ddydd Mercher ar amheuaeth o lofruddio.

Mae’r cyn-filwr, sy’n gweithio yng nghlybiau nos Casnewydd, wedi ei gadw yn y ddalfa heddiw.

Daw ei arestiad ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i ddwy gyllell wrth chwilio ystad Broadmead Park. Mae’r ddau wedi eu hanfon am archwiliad fforensig.

Camerâu

Erbyn hyn mae’r heddlu yn credu bod gan bedwar person dystiolaeth hollbwysig ynglŷn â’r llofruddiaeth, ar ôl iddynt gael eu gweld gan gamerâu cylch cyfyng ar y noson.

“Mae swyddogion sy’n ymchwilio i lofruddiaeth Nikitta Grender, 19 oed, eisiau cael gafael ar bedwar person gafodd eu gweld ar gamerâu cylch cyfyng yn ardal Broadmead Park, Moorland Park, a Phontfaen,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Cafodd y pedwar eu gweld yn oriau man y bore ar ddydd Sadwrn, 5 Chwefror, y dydd y daethpwyd o hyd i gorff Nikitta.

“Mae’r heddlu eisiau siarad â nhw rhag ofn fod ganddyn nhw wybodaeth sy’n berthnasol i’r ymchwiliad.”

Mae’r heddlu wedi galw ar y pedwar i gysylltu os ydyn nhw’n adnabod eu hunain yn y delweddau sydd wedi eu rhyddhau gan yr heddlu.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 01443 865 562 neu Daclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.