Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Fe fydd cannoedd o gwynion am ddiffyg gwasanaeth yn y Gymraeg yn cael eu cyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri heddiw.

Mae’r rhestr o gwynion wedi’i chyhoeddi mewn llyfr o’r enw Y Llyfr Du, ac mae’n cynnwys nifer o gwynion gwahanol wedi eu casglu drwy’r we a chynllun cardiau post gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

‘‘Yr hyn a ddangosai’r llyfr hwn, ydy bod rhaid i agweddau sydd yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg newid, a hynny yn gyflym os ydym eisiau i’r iaith barhau,” meddai Ceri Phillips, llefarydd hawliau y Gymdeithas.

“Does dim esgus ein bod ni, fel pobol Cymru, yn parhau i dderbyn rhagfarn o ddydd i ddydd am siarad iaith ein mamwlad.”

Ac mae Prif Lenor wedi rhoi cefnogaeth i gyhoeddi’r Llyfr Du.  

‘‘Dw i’n gobeithio y bydd haneswyr y dyfodol yn ystyried y cyfnod hwn fel carreg filltir yn hanes yr iaith Gymraeg,” meddai Jerry Hunter, sy’n ddarllenydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

“Mae Llyfr Du Cymdeithas yr Iaith yn ein hatgoffa ni o’r faith fod llawer o gyrff, sefydliadau a busnesau i ddiystyru’r Gymraeg o hyd.”