Paul Turner
Mae rhanbarth Dreigiau Casnewydd-Gwent wedi cadarnhau bore ma bod yr hyfforddwr Paul Turner wedi gadael y rhanbarth.

Cafodd Paul Turner ei atal o’i swydd dros dro ar 28 Ionawr Roedd y rhanbarth wedi penderfynu ymchwilio wedi iddo feirniadu staff meddygol Tîm Rygbi Cymru ar ôl i Dan Lydiate dychwelyd o brawf ffitrwydd gydag anaf.

Cyhoeddodd y rhanbarth heddiw fod Paul Turned wedi gadael “drwy gytundeb ar y cyd”.

“Rydyn ni eisiau mynegi ein diolch i Paul am yr holl waith y mae o wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddo yn y dyfodol,” meddai llefarydd.

Dywedodd Paul Turner ei fod wedi “mwynhau fy chwe blynedd gyda’r Dreigiau ac rydw i’n falch iawn fy mod i wedi chwarae rhan wrth ddatblygu’r rhanbarth yma”.

“Hoffwn i ddymuno’r gorau i’r chwaraewyr a’r staff wrth iddyn nhw wynebu gweddill y tymor.”

Bydd yr hyfforddwr cynorthwyol Darren Edwards yn cymryd yr awenau.

Mae’r Dreigiau wedi ei chael hi’n anodd y tymor yma, ar ôl methu ag ennill gem yn y Cwpan Heineken. Maen nhw’n eistedd yn y nawfed safle yng nghynghrair Magners ar hyn o bryd.

Cyn rheolwr y Gweilch, Lyn Jones, yw un o’r ffefrynnau i gael ei benodi yn brif hyfforddwr y Dreigiau yn y tymor hir.

Cafodd ei benodi i swydd ymgynghorol gyda’r Dreigiau dwy flynedd yn ôl ond bellach yn dysgu mewn ysgol yn y dwyrain canol.

Mae’n debyg ei fod yn awyddus i ddychwelyd i hyfforddi clwb rygbi yn y dyfodol agos.