Y Gymraeg wedi mynd... Dim ond y fersiwn Saesneg sydd i'w weld ar y ffordd i mewn i'r Maes
Mae un o’r arwyddion Cymraeg sy’n awgrymu  “o bosib” mai Dyffryn Nantlle ydi’r ardal Gymreiciaf yn y byd, wedi’i ddwyn dros nos neithiwr.

Dim ond y fersiwn Saesneg, sy’n barodi ar hysbyseb cwrw Carlsberg, sydd i’w weld ar y ffordd i mewn i faes Glynllifon.

Fe achosodd yr arwydd gryn dipyn o drafod yn gynharach yn yr wythnos, pan fu siaradwyr Cymraeg o ardaloedd eraill Eryri yn cwyno fod y sylw unigol i Ddyffryn Nantlle yn annheg.

Ond mae pobol yr ardal wedi dotio ar yr arwydd, ac mae’n debyg iawn mai rhywun lleol sydd wedi bachu’r faner blatig.

Leighton yn tecstio ei wraig

Pan welodd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yr arwyddion, fe anfonodd neges destun at ei wraig, Ann Beynon, yn syth. Ym mhentref Penygroes, Dyffryn Nantlle y magwyd y wraig sydd bellach yn Rheolwr BT Cymru.

“Wnes i anfon tecst at fy ngwraig yn syth,” meddai Leighton Andrews, yn dyfynnu’r geiriau. “Ges i neges yn ôl yn syth yn dweud, ‘Dw i’n gobeithio’!”