Non Tudur sy’n canu clodydd y gwirfoddolwyr glew sydd ymhell o lwyfan yr Urdd ond ynghanol y gwlybaniaeth…

Enillydd tlws Tir Na n’Og am sgrifennu llyfrau i blant a phobol ifanc…artist sydd wedi cipio’r Fedal Aur yn y Genedlaethol…un o gynghorwyr amlycaf a mwya’ brwd Llais Gwynedd…aelod dawnus o’r grŵp roc-syrff Y Niwl, sydd wedi gigio rownd Cymru, Lloegr ac America ac ennill calonnau miwsos benbaladr.

Dyma rai o’r gwirfddolwyr ymroddgar, mwdlyd sydd wedi bod yn arwain y ceir trwy’r gwynt a’r glaw ar faes parcio Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon. Maen nhw wedi gweithio’n ddiflino – yno ers doriad gwawr, yn tywys y ceir i’w priod le fel bugail yn hel ei braidd yn ofalus i’r gorlan. Er gwaetha’r strach ddechrau’r wythnos oherwydd y ciw o geir oedd yn ymestyn am filltiroedd i Fontnewydd a thu hwnt, a phobol yn cymryd oriau i gyrraedd y Maes, dim ond canmoliaeth y mae’r bobol yma yn ei haeddu. Bob bore, gyda’r glaw yn pistyllio a’r weipars yn gwegian, roedden nhw’n eich croesawu ac yn eich arwain ar yr un pryd, yn codi llaw, bob amser â gwên.

Dyw hi ddim yn job ramantus, a fawr o ddiolch yn y pen draw. Maen nhw wedi diodde’ pobol ar ben eu tennyn ac ambell un yn flin iawn ddechrau’r wythnos.

Ond roedd rhywbeth arall yn annog y criw yma i ddal ati. Criw o athrawon a rhieni o bentref Rhostryfan ydyn nhw, y pentref bach sy’n swatio islaw Moel Tryfan a phentrefi Rhosganfan a’r Fron. Nhw enillodd y bid am y gwaith o stiwardio’r maes parcio, er mwyn codi arian tuag at barc chwarae newydd i’r pentref. Mae’r hen un wedi dirywio ac wedi’i ddymchwel.

Maen nhw’n arwyr. Efallai y dylai’r fedal aur gael ei rhoi i’r awdur Lleucu Roberts – enillydd gwobr Tir Na n’Og ddwywaith am ei nofelau Annwyl Smotyn Bach a Stwff. Hi oedd yno ar ben y rhuban o stiwardiaid, yn eich hwrjo yn eich blaen â’i breichiau yn chwifio’n wyllt, bob amser ar flaenau’i thraed, yn neidio at y car nesa’, er yn sopen o’i chorun i’w thraed. Ddechrau’r wythnos roedd Bedwyr Williams yr artist adnabyddus yno, wedi beicio i lawr ben bore ac yn chwysu o’i ymdrechion. Gruffydd ab Arwel, sy’n chwarae’r allweddell a’r gitâr i fand Y Niwl yna yn hwyr brynhawn yn annog pobol ‘i beidio â thorri mewn i’r ciw, ond i fynd i’r cefn ac i barchu’r rhai sydd wedi aros yno cyn chi’. Ac Aeron Jones, cynghorydd Llais Gwynedd, yn ysblennydd yn ei siaced lachar yn eich arwain yn ôl i’r ffordd fawr. A sawl un arall, yn ifanc a hen.

Diodde’r tywydd garw o fore gwyn tan nos fel bod plant eu pentref yn hapus eu byd. Mi fyddai’n syniad da petai rhai o’r gyrwyr blin sydd wedi eistedd yn sych a chlyd yn eu ceir yn rhoi punt neu ddwy tuag at y gronfa i adeiladu parc chwarae newydd yn Rhostryfan.