Cynlluniau marina Caergybi
Mae cwmni datblygu wedi croesawu penderfyniad Cyngor Ynys Môn i roi caniatâd mewn egwyddor i farina mawr newydd yng Nghaergybi.

Fe fydd rhaid i’r cynghorwyr gytuno i fanylion y datblygiad eto ond mae’r gwrthwynebiad cyffredinol i’r cynllun wedi methu.

Roedd rhai pobol leol yn cwyno y byddai’r datblygiad, sy’n cynnwys lle i 500 o gychod, tai a gwesty, yn sbwylio un o’r ychydig rannau o lan môr y dre’ sydd heb ei ddatblygu.

Datblygwyr yn falch

Ond mae cwmni datblygu Conygar Investment a’r cwmni llongau fferi, y Stena Line, wedi croesawu’r penderfyniad.

Maen nhw’n pwysleisio y bydd y datblygiad hefyd yn gwella adnoddau i bobol leol, gan gynnwys traeth newydd, ac yn arwain at fuddsoddi yng ngweddill y dre’.

Prif benawdau’r datblygiad yw marina i 500 o gychod, 326 o wahanol fathau o dai, gwesty, bwytai, siopau a swyddfeydd.