Mae ymgyrch wedi dechrau mewn tref farchnad arall yng Nghymru i wrthwynebu bygythiad posib gan gwmni archfarchnadoedd Tesco.

Mae criw o bobol fusnes yn Llanrwst yn dweud y byddai codi siop fawr yng nghanol y dre’n gwneud niwed mawr i’r gweddill.

Ac maen nhw wedi condemnio’r cyngor lleol am beidio â bod yn agored ynglŷn â thrafodaethau honedig gyda’r cwmni.

Cyfarfod

Fe fydd cyfarfod arall o grŵp llywio’r ymgyrch nos yfory wrth iddyn nhw honni bod ganddyn nhw dystiolaeth fod Cyngor Sir Conwy wedi bod yn trafod gyda datblygwyr.

Yn ôl y dystiolaeth sydd ganddyn nhw, fe fyddai codi’r archfarchnad yn golygu symud llyfrgell, swyddfa heddlu a chanolfan wastraff a cholli’r unig le parcio cyhoeddus mawr yn y dre’.

Maen nhw’n honni y byddai’r ganolfan wastraff yn cael ei symud i ddolydd eang ar y ffordd i mewn i Lanrwst o’r de, gan ddistrywio’r olygfa mewn man lle mae peryg llifogydd.

‘Siopau bach yn cau’

“Ydan ni eisio i bobol leol sylweddoli nad cael Tesco mymryn rhatach ydi popeth,” meddai Cadeirydd yr ymgyrch, Dwynwen Berry o siop lyfrau Cymraeg a phethau swyddfa Bys a Bawd.

“Ydan ni’n gwybod beth sydd wedi digwydd mewn trefi eraill – mae siopau bach yn cau. Mae’r dre’ i gyd yn mynd i ddiodde’.”

“Hyd yn oed pe byddai Tesco’n tynnu pobol i’r dre’,” meddai, “fe fyddai’r rhan fwya’n mynd i’r siop fawr ac oddi yno’n syth a doedd addewid o swyddi rhan amser  ddim yn gwneud iawn am golli swyddi eraill yn y dre’’.

“Mae unrhyw arian y mae Tesco’n ei wneud yn mynd allan o’r dre’,” meddai. “Mae busnesau lleol yn trio cefnogi’i gilydd.”

Mae Golwg360 wedi bod yn ceisio cael gafael ar lefarydd o Gyngor Conwy a Tesco i gael sylw.