Lembit Opik
Mae’r reslar proffesiynol a fu’n ymladd yn erbyn y cyn-AS Lembit Opik wedi cael ei wahardd am 30 diwrnod am ei ran yn yr ornest.

Ac mae un o’i gyd wleidyddion wedi rhybuddio y gallai’r Democrat Rhyddfrydol, cyn Aelod Seneddol Maldwyn, gael ei frifo o ddifri.

Yn ôl neges gan Welsh Wrestling, mae Kade Callous wedi cael ei gosbi am ymladd yn erbyn y gwleidydd cwbl ddibrofiad.

Roedd cyn bencampwr pwysau trwm Cymru, sy’n dod o’r Midlands yn Lloegr ond yn gweithio yn ne Cymru, wedi cael ei herio gan Lembit Opik ar ôl honiad ei fod wedi twyllo i ennill gornest gynharach.

Fe ddigwyddodd yr ornest yr wythnos ddiwetha’ yn y Trallwng ond wnaeth Lembit Opik ddim ond parhau am ychydig funudau cyn cael ei gario o’r sgwâr.

Roedd adroddiadau wedyn ei fod wedi gorfod mynd i’r ysbyty i wneud yn siŵr ei fod yn iawn.

‘Angen dod at ei goed’

Mae wedi cael ei gondemnio gan ei gyd Ddemocrat Rhyddfrydol, yr Aelod Cynulliad Peter Black, am gymryd rhan yn yr ornest.

“Dylai unrhyw un sy’n agos at Lembit gael gair tawel gydag e a dweud wrtho ddod at ei goed cyn cael ei frifo’n wirioneddol ddrwg.

“Dyw e ddim wedi deall erioed nad oedd pobol yn chwerthin gydag e, ond am ei ben. Nawr, d’yn ni ddim yn chwerthin o gwbl.”