Fe fydd gyrrwr lori yn mynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o beryglu diogelwch pobl yn defnyddio’r rheilffordd yn dilyn damwain drên ar gyrion Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd Oswald Huw Davies, o Gastell Pigyn, Llanboidy, yn gyrru lori oedd yn tynnu dau drelar o wellt pan fu mewn gwrthdrawiad â thrên ar groesfan Henllan Amgoed ar 19 Rhagfyr.

Cafodd saith o’r 59 o deithwyr ar y trên Arriva, oedd yn teithio o Aberdaugleddau i Fanceinion, driniaeth am fân anafiadau.

Cafodd Davies, 49, ei arestio ar ôl y gwrthdrawiad a’i ryddhau ar fechnïaeth. Fe fydd yn ymddangos gerbron ynadon y dref heddiw.