Mae gan y Cwtch Cymraeg, sef pafiliwn ar gyfer digwyddiadau llenyddol a ieithyddol Eisteddfod yr Urdd, noddwyr newydd eleni, sef Magnox Cyf – contractwyr rheoli a gweithredu safleoedd Niwclear Trawsfynydd a Wylfa.

Mae’r datganiad wedi cythruddo aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy’n trefnu cerdyn post gwrth-niwclear at Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru o dan yr enw ‘Callia Carwyn’.

Dywedodd Aled Sion, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, ei fod yn “falch iawn fod Magnox wedi dangos eu cefnogaeth” at Eisteddfod yr Urdd.

Meddai hefyd “na fyddai’r Eisteddfod yn gallu cynnig hanner y cyfleoedd gwych yma heb eu cymorth parod ac rydym yn ddiolchgar iawn i Magnox am eu nawdd.”

Mae’r fideo yn dangos aelodau Cymdeithas yr Iaith yn meddiannu arwydd Magnox.

Mae Cymdeithas yn cynnal digwyddiad i dynnu sylw at gerdyn post ‘Callia Carwyn’ yn ei stondin ar faes yr Urdd am 2yp, gyda Richard Jones, Menna Machreth a Dr Carl Clowes ymhlith y siaradwyr.