Fe ddaeth ychydig dan 24,000 o ymwelwyr i faes Eisteddfod yr Urdd Eryri heddiw. Mae hynny 6,000 yn fwy na’r nifer ar y dydd Llun yn Abertawe y llynedd.

Er gwaetha’r problemau traffig, fe ddaeth 23,913 trwy’r clwydi, ac fe dywynnodd yr haul ar ôl glaw dros-nos.

Erbyn canol dydd, roedd cwynion di-ri’ ynglyn â’r trefniadau traffig, gyda rhai eisteddfodwyr yn cyrraedd y Maes ar ôl treulio oriau mewn tagfeydd.

Roedd yna hefyd giwiau hir wedi i bobol barcio eu ceir a cheisio cael tocynnau o’r bwth lle’r oedd dim ond llond llaw o ffenestri a gwerthwyr.

Pobol yn hwyr

Fe fethodd Llywydd Anrhydeddus yr eisteddfod, Esyllt Jones Davies, â chyrraedd y Maes gogyfer â digwyddiadau cynta’r dydd, er mai dim ond taith pedair milltir o Lanllyfni oedd ganddi.

Roedd y telynor a’r canwr gwerin, Arfon Gwilym, wedi cymryd teirawr i deithio tair milltir yn ei gar o Lanfaglan. Ac roedd y Prif Lenor a’r gyfieithwraig, Meg Elis, wedi cymryd oriau i deithio trwy’r Bontnewydd wrth ddod am Glynllifon o’i  chartre’ yn Y Waunfawr – fe fethodd â chyfieithu mewn cyfarfod am 11 o’r gloch.

Fe achoswyd mwy o broblemau wrth i gystadleuwyr rhwystredig a’u rhieni adael eu ceir ar fin y ffordd, a phenderfynu cerdded hyd at ddwy filltir o’r ciw traffig i’r Maes er mwyn cyrraedd rhagbrofion.