Rhys Meirion
Roedd un o sêr cyngerdd agoriadol yr Urdd ar y Maes heddiw yn hyrwyddo taith gerdded y bydd yn ei gwneud er mwyn codi arian at Ambiwlans Awyr Cymru.

Ddydd Gwener, Awst 17, y bydd y tenor, Rhys Meirioin, yn cerdded o Abertawe i Gaernarfon er mwyn cefnogi’r elusen ac er mwyn hyrwyddro Gŵyl Gobaith.

Fe fydd y daith yn cymryd wythnos gyfan i’w chwblhau.

Fe fydd deg cerddwr craidd yn cerdded: Rhys Meirion, Martin Darlington (Prif Beilot yr Ambiwlans Awyr), Osian Meirion (myfyriwr), Sam Williams ac Ian Thomas (parafeddygon Ambiwlans Awyr Cymru), Dylan Parry (meddyg) a Gerallt Pennant (cyflwynydd Heno ar S4C).

Mae manylion llawn, ynghyd â gwybodaeth ynglyn â sut i noddi cerddwyr, ar y wefan www.cerddwnymlaen.com. Mae angen cofrestru os yr ydych am ymuno â’r daith.