Fe wnaeth amserau aros am driniaeth mewn ysbytai yng Nghymru godi yn ystod mis Rhagfyr llynedd. 

Mae ffigurau newydd gafodd ei ryddhau heddiw’n dangos bod 331,794 o bobl angen triniaeth ar 31 Rhagfyr a bod 93.4% wedi bod yn aros llai 26 wythnos – yn erbyn targed Llywodraeth y Cynulliad o 95%. 

Mae 98.8% o’r bobl sydd angen triniaeth wedi bod yn aros llai na 36 wythnos. 

Does yr un claf i fod i orfod aros mwy na 36 wythnos am driniaeth ond fe ddigwyddodd hyn mewn dros 4,000 o achosion. 

Roedd y nifer o bobl yn gorfod aros mwy na wyth wythnos am wasanaethau diagnostig rhagnodedig wedi codi o 3,735 i 4,809. 

Roedd y nifer o bobl oedd wedi aros dros 14 wythnos am therapi rhagnodedig hefyd wedi codi o 22 i 87 yn ystod mis Rhagfyr. 

Trafferth’

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay, yn beirniadu Llywodraeth y Cynulliad am wneud toriadau i gyllid y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol pan fod angen ei warchod. 

“Mae’r ffigurau diweddaraf yn rhan o duedd tymor hir o dargedau amserau aros yn cael eu methu ac yn cuddio gwasanaethau sy’n cael trafferth i ddygymod gyda’r galw – ac mae staff
ymroddgar y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol o dan bwysau,” meddai Nick Ramsay. 

“Mae ACau Llafur-Plaid wedi gwthio toriadau o £1bn dros y tair blynedd nesaf, sy’n debygol o achosi cleifion i aros mwy fyth am driniaeth allweddol.”