Y Llyfrgell Genedlaethol
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn chwilio am wirfoddolwyr er mwyn darparu gwell gwasanaeth i ddefnyddwyr y llyfrgell.

Mae’r ymgyrch yn rhan o gynllun “Ein Helpu i Gyflawni” i ddenu gwirfoddolwyr i roi help llaw i weithwyr cyflogedig y sefydliad ac nid oes raid i chi fyw yn agos i’r Llyfrgell yn ôl y Prif Lyfrgellydd, Andrew Green

“Rydym am roi cyfle i bawb wirfoddoli – ble bynnag ydych chi’n byw – Golan Caernarfon neu’r Golan Heights – bydd modd i chi gynnig eich hunain fel gwirfoddolwyr. Mae’r dechnoleg newydd a’r rhyngweithio hwylus sy’n digwydd rhwng y Llyfrgell a’i phobl yn datblygu o ddydd i ddydd ac nid yw pellter erbyn hyn yn reswm dros beidio a chynnig eich hun,” meddai.

Mae’r criw cyntaf o wirfoddolwyr eisoes wedi cael eu penodi. Bydd myfyrwyr o Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth yn gweithio ar gasgliad y Llyfrgell o gartwnau Dorrien oedd yn gartwnydd efo’r Western Mail a’r South Wales Echo. Bu Dorrien farw yn 1998 ac mae casgliad o 700 o’i gartwnau yn y Llyfrgell.

Fe fydd y myfyrwyr yn rhannu’r casgliad yn gartwnau gwleidyddol ac yn bortreadau gwreiddiol o gricedwyr, gollfwyr a bocswyr.

Bydd y cynllun yn cael ei lansio yn y Llyfrgell yn Aberystwyth am un o’r gloch ar 14 Mehefin.