Mae aelod o Fataliwn Cyntaf y Royal Welsh wedi cael ei ladd yn nhalaith Helmand yn ne Affganistan. Cafodd ei saethu tra ar batrol yn ardal Nahr e Saraj.

Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn bod ei deulu wedi cael gwybod.

Mae 416 o aelodau o luoedd arfog Prydain wedi cael eu lladd yn Affganistan ers i’r ymladd gychwyn yno yn 2001.

Rhyddhau gweithwyr gafodd eu herwgipio

Yn y cyfamser mae NATO wedi cadarnhau bod 4 o bobl oedd yn ceisio helpu trigolion ardal Badakhstan yng ngogledd y wlad wedi cael eu rhyddhau gan luoedd aeth yno ganol nos neithiwr.

Roedd y pedwar yn rhan o griw o bump sy’n gweithio i gwmni cymorth Medair o’r Swisdir, ac fe gawson nhw eu herwgipio ar 22 Mai.

Mae un Prydeiniwr yn eu plith ac mae nhw mewn cyflwr da yn ôl Lal Mohammad Ahmadzai ar ran NATO.

‘Dyw hi ddim yn glir beth sydd wedi digwydd i’r pumed person gafodd ei herwgipio.

Cafodd pump o’r herwgipwyr eu lladd yn ystod y cyrch ac mae’r heddlu yn yr ardal yn dweud eu bod nhw i gyd yn aelodau o gangiau o droseddwyr s’n manteisio ar ddiffyg rheolaeth y lluoedd diogelwch Affgan yn yr ardal.