Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi dweud bod perygl y bydd TB yn lledu ymhellach os yw pobol yn lladd moch daear yn anghyfreithlon.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth y bydd yn cyflwyno rhaglen o frechu yn hytrach na difa moch daear i atal diciâu mewn gwartheg.

Yn ôl ymchwiliad gan raglen y Byd ar Bedwar ym mis Ebrill roedd ffermwyr yng Ngorllewin Cymru eisoes wedi dechrau gweithredu yn erbyn TB ar eu liwt eu hunain ac yn trefnu i foch daear gael eu saethu yn anghyfreithlon.

Dywedodd Carwyn Jones wrth Golwg 360 y gallai unrhyw un a oedd yn lladd moch daear yn anghyfreithlon ddisgwyl cael eu herlid.

“Os oes rhywun yn lladd moch daear maen nhw’n mynd i gael eu dal a’u herlid,” meddai.

“Yn ogystal â hynny mae yna risg eu bod nhw’n mynd i ledu TB i rannau eraill o Gymru a hefyd lledu TB i ardaloedd eraill o fewn siroedd fel Sir Benfro sydd eisoes yn dioddef.

“Os ydych chi’n lladd moch daear mewn ffordd sydd heb gael ei reoli beth sydd yn digwydd wedyn yw bod y moch daear sydd ar ôl yn mynd i rywle arall, ac efallai wrth wneud hynny wrth gwrs yn mynd â’r TB gyda nhw.

“Ac oherwydd hynny dyw hi ddim yn rhwydd dweud mai’r cyfan sydd angen ei wneud yw lladd moch daear ac yna fe fydd popeth yn cael ei ddatrys.

“Mae’n llawer mwy cymhleth na hynny ac wrth gwrs mae John Griffiths, y Gweinidog Amgylcheddol, wedi cynnig ei farn ynglŷn â’r ffordd ymlaen wrth fynd i’r afael â TB yng Nghymru.

“Hoffwn i bwysleisio ei fod yn bwysig dros ben bod pobl yn sylweddoli mai nod y llywodraeth yw cael gwared ar TB, dod o hyd i’r modd mwyaf effeithiol a gwyddonol o wneud hynny, a hefyd cyfreithiol i wneud hynny.”