John Griffiths
Mae Gweinidog Amgylchedd Cymru yn Copenhagen heddiw er mwyn trafod cynaladwyedd gyda llywodraeth Denmarc.

Denmarc sy’n dal llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ac mae John Griffiths yn cwrdd gydag Ida Auken, Gweinidog Amgylchedd Denmarc.

Dywedodd John Griffiths ei fod eisiau gweld Cymru’n arwain ym maes cynaladwyedd a’i fod yn edrych ymlaen at drafod yr arfer gorau o ran datblygu cynaladwy gydag Ida Auken.

“Mae cynaladwyedd wrth graidd Llywodraeth Cymru” meddai

“Mae hyn yn golygu pethau megis buddsoddi mewn addysg gynnar o safon uchel er mwyn rhwystro caledi cymdeithasol yn hwyrach, neu helpu cartrefi a busnesau Cymru i fod yn fwy effeithlon o ran ynni er mwyn arbed arian a pharatoi at gynnydd mewn prisiau ynni.”

Rio de Janeiro

Mae John Griffiths yn mynd i gynhadledd amgylcheddol Rio+20 yn hwyrach y mis yma fel rhan o ddirprwyaeth Prydain, a dywed ei fod am drafod gyda Denmarc sut bydd modd gweithredu amcanion y gynhadledd mewn gwledydd megis Cymru a Denmarc.

Mae ugain mlynedd ers y Gynhadledd Ddaear yn Rio ac mae’r Cenhedloedd Unedig yn cynnal Rio+20 er mwyn “gweithredu ar dlodi, mynd i’r afael â difrod amgylcheddol ac adeiladu pontydd i’r dyfodol.”

Cynaladwyedd fydd prif thema’r gynhadledd ym Mrasil a fydd yn cychwyn ar 20 Mehefin.