Ambiwlans Cymdeithas yr Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am dynnu sylw at iechyd bregus yr iaith yn ei chadarnleoedd trwy gludo ymgyrchwyr o amgylch Cymru mewn hen ambiwlans.

Bydd taith yr ‘ambiwlans’ yn dechrau’r wythnos nesaf ar faes Eisteddfod yr Urdd a’i fwriad yw sbarduno trafodaeth am ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol medd y Gymdeithas.

“Byddwn yn cynnig cymorth cyntaf i’n cymunedau ar yr ambiwlans,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams.

“Y camau cyntaf fydd adnabod yr heriau penodol ym mhob ardal cyn gallu mynd ati i weithio gyda’n cymunedau i’w trawsnewid.”

Mae taith yr ambiwlans yn cyd-ddigwydd gyda dathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a dywed y Gymdeithas eu bod nhw am “roi prif ffocws eu gwaith ar weithio gyda chymunedau i wyrdroi’r cwymp hynny.”

Cwympodd nifer y cymunedau lle mae dros 70% o’r trigolion yn siarad Cymraeg o 92 yn 1991 i 54 yn 2001, ac mae pryder bydd gostyngiad pellach yn y nifer pan fydd canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn cael eu cyhoeddi.

“Rydym am weld y Gymraeg fel iaith dydd i ddydd ein cymunedau ac er mwyn sicrhau hynny mae angen i bawb – o’n cynghorau cymuned reit lan i’r Cynulliad – ddeffro i’r her” meddai Bethan Williams

“Gobeithiwn y bydd y daith yn hybu trafodaeth ac ymwybyddiaeth o’r her” ychwanegodd.

Mae’r daith yn cael ei lansio’n swyddogol gan Dafydd Iwan ddydd Iau nesaf ar faes Eisteddfod yr Urdd, a bydd yn dod i ben ei daith ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg ym mis Awst.