Gareth 'Alfie' Thomas
Cyn gapten tîm rygbi Cymru, Gareth ‘Alfie’ Thomas, yw enillydd cariad@iaith:love4language 2012 wedi wythnos ddwys o ddysgu Cymraeg yng ngwersyll fforest ger Cilgerran.

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi yn ystod rhaglen ola’r gyfres a ddarlledwyd yn fyw ar S4C heno.

Yr actores Di Botcher cipiodd yr ail safle.

Roedd Alfie wedi ei ddewis gan y gwylwyr drwy bleidlais ar Facebook, ac roedd pleidlais gan y dysgwyr enwog wedi ei ddyfarnu’n gyfartal rhwng Alfie a’r actores Di Botcher.

Y sêr eraill oedd yn cymryd rhan yn y gyfres oedd y tenor Wynne Evans, y gantores Lucie Jones, seren y gyfres deledu boblogaidd Game of Thrones Robert Pugh a’r cyflwynwyr teledu Lisa Rogers, Alex Winters a Lucy Owen.

Yn ystod yr wythnos mae’r wyth seren adnabyddus wedi bod yn mynychu gwersi iaith yn ogystal ag ymgymryd â thasgau yn cynnwys canŵio, arlunio a gêm o Bolo Dŵr mewn cwrwgl.

‘Ysbrydoliaeth’

Dywedodd Gareth Thomas: “Uchafbwynt yr wythnos ifi oedd gweld Wynne a Di Botch yn mynd o  allu siarad rhywfaint o Gymraeg i fynd ati i gynnal sgwrs hir yn rhugl. Maen nhw nawr yn swnio fel bod nhw wedi siarad Cymraeg ers blynyddoedd ac mae hynny’n rhoi’r hyder a’r cymhelliant i fi i ddyfalbarhau.

“Does dim rheswm pam na alla’i fod yn yr un sefyllfa â nhw yn y dyfodol ac ysbrydoli rhywun arall fel maen nhw wedi fy ysbrydoli i. Mae pob un ohonom ni yn enillwyr ar ddiwedd y dydd!”

Roedd enillydd cyfres ddiwethaf cariad@iaith:love4language, yr actores Melanie Walters, yn y ffeinal i gyflwyno’r wobr i Alfie ac i hel atgofion am ei hamser hi ar y gyfres.

Y tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn sydd wedi bod yn dysgu’r sêr yn ystod yr wythnos.

Meddai Nia: “Mae wedi bod yn wythnos anhygoel ac mae’r wyth ohonyn nhw wedi ennill yn fy marn i. Mae’r sêr wedi dangos yr hyn mae pobl yn gallu cyflawni mewn wythnos o ddysgu Cymraeg yn defnyddio dull ‘dadawgrymeg’ (desuggestopedia) ac wrth edrych ar yr holl adborth ac ymateb i’r gyfres eleni, maen nhw’n sicr yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr ym mhob man.”

Bydd modd gwylio cyffro’r wythnos unwaith eto mewn rhaglen uchafbwyntiau arbennig  nos Sadwrn, 2 Mehefin am 10.10pm. Mae modd hefyd gwylio’r gwersi cyfan ar y wefan s4c.co.uk/s4cariad.