Deiseb o blaid cael cofnod Cymraeg i’r Cynulliad Cenedlaethol yw un o ddeisebau mwyaf poblogaidd y Cynulliad ar hyn o bryd.
O fewn wythnos ers ei hagor mae dros 650 o bobol wedi llofnodi’r ddeiseb yn galw ar i Gomisiwn y Cynulliad dderbyn argymhellion gan bwyllgor craffu y dylai’r cofnod fod yn gwbl ddwyieithog.
Mae’r ymgyrch i sicrhau cofnodion Cymraeg i drafodaethau’r Senedd a’r pwyllgorau wedi bod yn bwnc llosg ers tro. Yn 2009 penderfynodd Comisiwn y Cynulliad, dan Gadeiryddiaeth y Llywydd ar y pryd Dafydd Elis-Thomas, bod gwell ffyrdd o wario arian nag ar drosi trafodaethau Saesneg y Senedd i’r Gymraeg.
‘Triniaeth gyfartal’
Y llynedd penderfynodd Comisiwn y Cynulliad ymgynghori ar y pwnc, cyn penderfynu ym mis Tachwedd i ddefnyddio Google Translate a chael cyfieithwyr i gael cipolwg ar y gwaith.
Bryd hynny llofnododd 1,500 o bobol ddeiseb yn galw am gofnod Cymraeg.
Yr wythnos ddiwethaf camodd papur newydd y Western Mail i ganol y ddadl gyda thudalen flaen oedd yn dweud bod gwario £400,000 ar gofnod Cymraeg yn “foethusrwydd na allwn ei fforddio.”
Bydd y ddeiseb bresennol yn cau ar 13 Mehefin.
Ychwanega’r ddeiseb fod argymhellion y pwyllgor craffu yn “adlewyrchu dymuniad pobl Cymru i weld triniaeth gyfartal i’r Gymraeg ac i atal camwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg.”