Mae cwmni RWE npower wedi cyhoeddi y bydd 139 yn llai o dyrbinau yn cael eu hadeiladu ym Môr Hafren, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Fe fydd y fferm wynt ‘Atlantic Array‘ hefyd yn cael ei symud 3.7 milltir ymhellach o arfordir Cymru, gan olygu y bydd nawr yn cael ei adeiladu 14 milltir o’r arfordir.

Mae’r datblygwyr yn honni y bydd y fferm wynt, a fydd nawr yn cynnwys 278 o dyrbinau,  yn cynhyrchu 90% o anghenion ynni cartrefi Cymru.

Dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi addasu eu cynlluniau yn dilyn ymgynghoriad â’r cyhoedd y llynedd, yn ogystal ag astudiaethau amgylcheddol a pheirianneg.

Fe fyddwn nhw hefyd yn cynnal ymgynghoriad arall yn ne Cymru ym misoedd Gorffennaf ac Awst.

“Bydd y newidiadau yn golygu lleihau effaith gweledol ac amgylcheddol y fferm wynt,” meddai llefarydd ar ran RWE npower.

“Fe fydd yr ail ymgynghoriad yn rhoi cyfle i gymunedau lleol gael gwybod rhagor am y newidiadau a gweld delweddau fydd yn dangos y cynllun diwygiedig.”

Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth San Steffan fydd yn penderfynu a fydd y cynllun yn cael caniatáu cynllunio.