Brynle Williams
Bydd cwest yn cael ei gynnal i farwolaeth y gwleidydd poblogaidd, Brynle Williams, dydd Mercher yr wythnos hon.

Bu farw Brynle Williams, Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, ym mis Mawrth y llynedd ar ôl brwydr hir yn erbyn canser. Roedd yn 62 oed.

Crwner gweithredol gogledd Ddwyrain Cymru, John Gittins, fydd yn cynnal yr ymchwiliad i farwolaeth Brynle Williams, fydd yn cael ei gynnal yn Llys Ynadon Wrecsam.

Dywedodd John Gittins mai rôl yr ymchwiliad oedd edrych i mewn i’r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth Brynle Williams, nid i benderfynu os oedd unrhyw un ar fai.

Byddai’r cwest yn dilyn y drefn arferol, meddai, gyda gweddw Brynle Williams, Mary, yn cyflwyno tystiolaeth, ynghyd â’i feddyg teulu, y patholegydd Mark Atkinson a Dr Matthew Makin, Pennaeth Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.