Gareth Thomas
Ar ddiwrnod cyntaf cyfres cariad@iaith:love4language, mae’n amlwg pwy yw’r bachgen drwg yn y dosbarth!

Yr her gyntaf i’r dysgwyr enwog bore ʼma oedd rhwyfo cwryglau ar yr Afon Teifi. Er bod golwg bryderus ar ambell wyneb, fe fentrodd yr wyth ar yr afon i chwarae polo dŵr.

Un o’r cyntaf i fentro sefyll ar ei draed yn ei gwrwgl oedd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Gareth Thomas.

Ond Gareth hefyd oedd y cyntaf i gwympo ar ei ben i’r afon, gan dynnu’r canwr Wynne Evans i’r dŵr hefyd!

Gyda’u hathro Nia Parry yn dweud y drefn o lan yr afon, protestiodd Gareth, “Wnes i ’mond gwneud e achos bod Wynne wedi tasgu dŵr ar Lucy.”

Cyn ychwanegu, “Ydi hyn yn amser da i sôn nad ydw i’n nofiwr cryf iawn?”

Mae Gareth, Wynne a’u cyd ddisgyblion – Lucie Jones, Lucy Owen, Robert Pugh, Lisa Rogers, Di Botcher ac Alex Winters – yn treulio chwe diwrnod yn dysgu Cymraeg ar y gyfres deledu boblogaidd.

Mae’r rhaglenni byw yn dechrau heno (Sadwrn 26 Mai) ac yn cael eu darlledu ar S4C bob nos tan y ffeinal ar nos Iau 31 Mai.

Ymunwch â Nia Parry a Gareth Roberts heno yn fyw o wersyll fforest ger Cilgerran i fwynhau goreuon y diwrnod cyntaf ac i weld os wnaeth unrhyw un lwyddo i ddod nôl i’r lan yn sych.

Hefyd ar y rhaglen, bydd rhaid i’r wyth daclo her arall yn fyw o flaen y camerâu – a gobeithio eu bod nhw wedi cofio eu hesgidiau dawnsio!

Gallwch fod yn rhan o’r gyfres drwy ddilyn @s4cariad ar Twitter a thrwy bleidleisio am eich ffefryn ar y dudalen Facebook – www.facebook.com/s4cariad. Hefyd, mae rhagor o wybodaeth ar y wefan s4c.co.uk/s4cariad