Charlotte Church
Bydd y gantores o Gaerdydd, Charlotte Church, yn ymddangos yng Ngŵyl Gobaith eleni.

Bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal dros benwythnos Gŵyl y Banc ddiwedd Awst ar dir Coleg Glannau Dyfrdwy a Phrifysgol Glyndŵr yn Llaneurgain sef safle Coleg Garddio Cymru gynt.

Y canwr opera rhyngwladol Rhys Meirion sydd wedi sefydlu’r Ŵyl a bellach mae’n cael ei gynorthwyo gan bwyllgor a thîm o wirfoddolwyr.

Yn ogystal â Charlotte, bydd y grŵp Steps yn ymddangos yn yr Ŵyl eleni, a hefyd Hayley Westenra, Shân Cothi a’r Tri Phantom sef Earl Carpenter, John Owen-Jones a Glyn Kerslake.

Meddai Rhys Meirion, “Ein gobaith yw y bydd Gŵyl Gobaith yn tyfu ac yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf i fod yn un o brif ddigwyddiadau diwylliannol Prydain. Y Ni (sef pobl Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr) fydd yn berchen arno.”