Mae’r BBC am i ni fwynhau un orgasm Olympaidd hirfaith dros y dyddiau nesaf, wrth i’r Fflam Olympaidd deithio rownd ein mamwlad dlawd. ‘Dim diolch’ medda fi…

 Gawn nhw wario fy nhrethi ar basiant budur llawn jyncis mewn jocstraps.

Gawn nhw injectio pob copa walltog (sy’n talu drwy’i drwyn i weld y ffars) yn ei dalcan efo llif cyson o coca-cola a byrgyrs blonegog y clown o Mericia.

Gawn nhw fewnforio rhedwrs cyflym a neidars uchel fewn o Mericia hefyd, a smalio bo nhw’n British born and bred.

Gawn nhw gynnal pêl-droed i genod yng Nghaerdydd, a smalio bo nhw’n cynnwys y Cymry yn yr holl lol.

Gawn nhw hyd’noed gynnwys ein chwaraewyr pêl-droed disgleiriaf yn eu tîm GB, a’r hen ben horni Ryan Giggs yn un o’r chwaraewyr hŷn – fysan nhw’n cael cynnwys Imogen Thomas yn y tîm foli-bôl yn y tywod hefyd, ond wnawn nhw mo hynny.

Gawn nhw refru drwy’r Haf mai dyma’r Olympiad gorau erioed, a gorchuddio David Beckham mewn siocled a’i fyta fo’n fyw.

Fe gawn nhw wneud hyn oll a mwy…ond pan maen nhw dod â’r ffars i fy iard gefn i, yn tarfu ar batrwm cysetlud fy mywyd i, yn meiddio meddiannu fy lle parcio i, mae’r amser wedi dod i sgwennu blog bach blin a chwyno o’i hochor hi.

Ddydd Llun nesa’ fe fydd yr unig faes parcio sydd am ddim yn y Roial Byrow of Caernarvon, yn cael ei feddiannu gan y Pena Rwdins sy’n mynd â’r Fflem Olympaidd o gwmpas Ynysoedd Prydain.

Nid yw hyn yn iawn. Mae’n anghyfiawn. Ac yn anfoesol. Os fedar Llywodraeth Prydain wario £12biliwn ar gynnal yr Olympics, mi fedran nhw fforddio i barcio’u ceir ym meysydd parcio talu-ac-arddangos tre’ Caernarfon (£3.50 am fwy na phedair awr y dydd, gan eich bod yn gofyn).

I’r rhai sydd ddim yn gwybod: y maes parcio am ddim ydy’r un pellaf o ganol y dref, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan bawb heblaw gweithwyr y cyngor (sy’n mwynhau maes parcio preifat ryw dafliad carreg o’r pencadlys).

Felly heblaw am gewri glew y sector gyhoeddus, mae’r plebs i gyd yn parcio yn yr overflow o dan Morrison’s.

Ond nid dydd Llun wrth gwrs. Fe fydd yn rhaid talu am barcio…Olympics Llundain yn creu fwy fyth o gostau ac yn trethu amynedd dyn.

 Ôl-nodyn: Mae’r Olympics wedi mynd yn hen beth gwael ers blynyddoedd, efo gormod o dwyllwrs ar gyffuriau wedi chwalu hygrededd y fenter.

Ac rydw i wedi rhoi’r gorau i dalu sylw go-iawn ers 1988.

Ond mi fydda’ i’n gwylio’r pêl-droed dynion y tro hwn – er nad ydy ffwtbol yn cyfrif fel Sbort Olympaidd mewn gwirionedd – er mwyn cefnogi’r gwrthwynebwyr wrth reswm.

Dewch yn eich blaenau Urugay, Senegal a’r United Arab Emirates!