Mae Gweinidog yn y llywodraeth wedi cyhoeddi newidiadau i wasanaeth trên rhwng de a gogledd Cymru.

Dywedodd Carl Sargeant, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru, y bydd y gwasanaeth cyflym rhwng y de a’r gogledd bellach yn stopio yn nwy orsaf brysur yn y gogledd – Wrecsam a’r Fflint.

Mae’r gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno yn lle’r un presennol, sef ‘Gerallt Gymro’, ac yn arbed hanner miliwn o bunnoedd y flwyddyn medd y Llywodraeth.

“Bydd y gwasanaeth newydd yn cadw rhannau gorau gwasanaeth Gerallt Gymro, yn costio llai i drethdalwyr Cymru ac yn darparu mwy o amser yng Nghaerdydd i deithwyr busnes a siopwyr,” meddai Carl Sargeant.

Bydd y gwasanaeth cyflym newydd yn gadael Caergybi am 5:32yb ac yn cyrraedd gorsaf ganolog Caerdydd am 9:58yb, gan ddychwelyd am 6:18yh ac yn cyrraedd Caergybi am 10.35yh.

Croesawodd Helen Paterson, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam, y newydd:  “Mae’r gwelliannau yma i’r rheilffordd yn newyddion gwych ac yn arwydd o bwysigrwydd y llwybr arbennig yma,” meddai.