Kevin Madge
Mae Kevin Madge, Arweinydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi cyhoeddi ei gabinet, ac am y tro cyntaf mae gan y cyngor gydbwysedd o ran nifer y dynion a’r merched, gyda phump yr un.

Mae hefyd cydbwysedd rhwng y cynghorwyr Llafur ac Annibynnol ar y Cabinet, gyda phump yr un, ond nid oes lle ar y bwrdd i blaid fwyaf y cyngor, Plaid Cymru.

Bydd gan y Cyngor ddau ddirprwy arweinydd, sef Tegwen Devichand o Lafur a Pam Palmer o’r Annibynwyr.

Keith Davies o Gydweli fydd yn dal y portffolio addysg, tra bod y cyn-arweinydd Meryl Gravell yn cael portffolio adfywio a hamdden.

Dywedodd Kevin Madge mai blaenoriaethau’r cabinet fydd swyddi, buddsoddiad, tai, ardaloedd gwledig, adfywiad economaidd ac addysg.

“Mae’r portffolio newydd ar gyfer ardaloedd gwledig yn dangos fy ymrwymiad i i bob rhan o Sir Gaerfyrddin,” meddai Kevin Madge, sy’n cynrychioli sedd y Garnant.