Planhigion sefydliad IBERS
Mae sefydliad yng Ngheredigion sy’n ymchwilio i blanhigion a newid hinsawdd wedi derbyn £13m gan Lywodraeth Prydain.

Mae’r Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, David Willetts, wedi cyhoeddi heddiw fod Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn Aberystwyth yn derbyn yr arian ar gyfer ymchwilio i sialensiau bwydo’r blaned a chanfod ffynonellau tanwydd. Mae saith canolfan ymchwil arall yng ngwledydd Prydain wedi derbyn buddsoddiad hefyd.

Mae IBERS yn fenter newydd ar y cyd rhwng Sefydliad Gwyddorau Biolegol ac Amaethyddol Prifysgol Aberystwyth ac IGER, y Sefydliad ar gyfer Ymchwil Glaswelltirol ac Amgylcheddol.

Dywedodd Cyfarwyddwr IBERS, yr Athro Wayne Powell, fod y buddsoddiad yn “garreg filltir bwysig yn natblygiad IBERS.”

“Mae’n gydnabyddiaeth o’r ymchwil gwych sy’n cael ei gyflawni yma yn IBERS wrth ymrafael â rhai o’r problemau sy’n wynebu’r byd heddiw, newid hinsawdd, diogelwch bwyd a dŵr, a’r angen i ganfod tanwyddau i gymryd lle tanwyddau ffosil.”

Wythnos yn ôl cafodd Canolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion gwerth £6.8m ei hagor yn IBERS yng Ngogerddan ger Aberystwyth.