Paul Murphy
Mae Aelod Seneddol Torfaen Paul Murphy wedi camu i mewn i’r ddadl ar gostau cyfieithu cofnodion y Cynulliad trwy ddweud na fydd pobol Cymru yn deall pam fod rhaid gwario £400,000 ar gyfieithu.

Mae papur y Western Mail, a greodd gynnwrf ddoe mewn darn golygyddol ar gostau cyfieithu cofnodion y Cynulliad, heddiw’n dyfynnu datganiad gan y cyn-Ysgrifennydd Gwladol.

Yn y datganiad dywed Paul Murphy nad yw’n gynhyrchiol i awdurdodau lleol wario ar yr iaith Gymraeg yn hytrach na “gwasanaethau craidd megis addysg” a’i fod yn cytuno gyda chymdeithas feddygol y BMA y “dylai arian gael ei wario ar iechyd a gofal ac nid hyrwyddo iaith” mewn cyfnod o gyni ariannol.

‘Anniddig’

Ychwanegodd Paul Murphy ei fod yn “anniddig iawn” am oblygiadau ariannol rhai o gynigion Comisiwn y Cynulliad sydd am ddarparu cofnodion dwyieithog o’r hyn sy’n cael ei drafod yn y Senedd a’r pwyllgorau.

Dywedodd Paul Murphy ei fod yn cefnogi’r “camau mawrion” diweddar yn natblygiad yr iaith Gymraeg a’i fod, tra’n Ysgrifennydd Gwladol, wedi goruchwylio LCO yr iaith Gymraeg sydd wedi “rhoi’r grym i’r Cynulliad i ddilyn ei bolisïau blaengar ar yr iaith.”

Ar hyn o bryd mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn ymgynghori ar Safonau iaith Gymraeg ar gyfer cyrff cyhoeddus a rhai cyrff preifat a dywed Paul Murphy wrth y Western Mail y bydd yn cyflwyno tystiolaeth yn gofyn i’r Comisiynydd ohirio “unrhyw gynlluniau i gynyddu rheoleiddio cwmnïau preifat a chyrff cyhoeddus tan ein bod ni allan o’r dirwasgiad yma.”