Mae undeb amaethwyr yr FUW wedi croesawu cynlluniau i uno cwmni cydweithredol o ffermwyr llaeth gyda grŵp o Ewrop.

Fe fyddai’r cynllun yn uno Milk Link sy’n gyfrifol am hufenfa yn Llandyrnog, Sir Ddinbych, gyda grŵp Arla Foods o Ewrop.

Fe fyddai’n creu’r cwmni mwya’ ar y farchnad laeth yn y DU, gan gynhyrchu 3 biliwn litr o lefrith bob blwyddyn a gwerthiant dros £2 biliwn.

Wrth groesawu’r cynllun dywedodd Dei Davies, cadeirydd pwyllgor cynnyrch llaeth yr FUW: “Am flynyddoedd lawer mae anghydraddoldeb wedi bod yn y prisiau mae cynhyrchwyr yn y DU ac Ewrop yn ei gael. Bydd uno’r ddau gwmni yn gam cyntaf tuag at godi’r prisiau mae cynhyrchwyr yn y DU yn ei dderbyn.

“Y gobaith yw y bydd yn golygu bod y sector llaeth yn y DU yn fwy diogel a chynaliadwy yn y dyfodol.”

Fe fydd y cynllun yn gyfle i Arla ehangu a buddsoddi yn y farchnad laeth yn y DU. Mae Arla Foods wedi buddsoddi £500 miliwn yn y diwydiant yn y DU gan sefydlu brandiau llaeth megis Cravendale, Lurpak ac Anchor.