Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Olygydd y Western Mail yn gofyn am ymddiheuriad ffurfiol am y darn golygyddol yn y papur heddiw.

Mae awdur y darn, Prif Ohebydd y Western Mail Martin Shipton, wedi dweud na fydd y papur yn ymddiheuro. Ar raglen drafod y BBC Radio Wales Phone-In gwadodd Martin Shipton fod y darn golygyddol yn ymosodiad ar y Gymraeg.

“Mae’r darn yn ymwneud â blaenoriaethau ac nid yr iaith Gymraeg. Pan edrychon ni ar flaenoriaethau nid oedden ni’n gallu cefnogi gwario arian mawr ar gyfieithu pan mae pobol dlotaf Cymru yn cael eu taro yn ariannol” meddai Martin Shipton ar y rhaglen radio.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi sefydlu deiseb ar wefan y Cynulliad yn galw ar i bobol gefnogi argymhellion pwyllgor y Cynulliad dros sicrhau bod dogfennau swyddogol ar gael yn ddwyieithog.

“Hoffwn bwysleisio ein bod yn cefnogi hawl y papur i adrodd y newyddion am y Bil Ieithoedd Swyddogol – credwn yn gryf yn rhyddid y wasg,” meddai Ceri Phillips, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar hawliau.

“Fodd bynnag, mae’r lein olygyddol a ymddangosodd yn y papur heddiw wedi croesi llinell, llinell na fyddai neb yn ei derbyn mewn maes cydraddoldeb arall. Mae gan y papur ohebwyr o’r safon uchaf, ond mae’r Golygydd wedi gwneud camgymeriad golygyddol enfawr.

“Rydym yn ffyddiog y bydd y papur yn gwneud ymddiheuriad i adfer ei hygrededd yng ngolwg pobl Cymru sydd, boed yn Gymry Cymraeg neu’n ddi-Gymraeg, yn gefnogol iawn o’r buddsoddiad yn y Gymraeg.”

Cwmni teledu yn canslo

Yn y cyfamser, mae Cwmni Da yng Nghaernarfon, cynhyrchwyr rhaglenni megis Sioe Tudur Owen ar S4C, wedi canslo eu deg copi yr wythnos o’r Western Mail, yn ôl negeseuon ar wefan gymdeithasol Trydar.

“Gobeithio bydd sawl cwmni yn dilyn esiampl Cwmni Da a chanslo’r Western Mail o’r gweithle! Da,” meddai Elis Griffiths ar wefan Facebook.