Tu allan i'r gwrandawiad
Mae ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal heddiw er mwyn trafod bwriad cwmni i dyllu am nwy ym Mro Morgannwg trwy broses ddadleuol ffracio.

Mae cwmni Coastal Oil and Gas o Benybont yn apelio yn erbyn penderfyniad cynghorwyr Bro Morgannwg i wrthod cais i ffracio yn Llandŵ o achos pryder ynghylch effaith y broses ar y cyflenwad dŵr.

Mae cangen y Barri a Bro Morgannwg o Gyfeillion y Ddaear wedi cynnal gwrthdystiad yn erbyn y cynigion y tu allan i’r gwrandawiad yn Nociau’r Barri.

“Roedd tua 30 o bobol yna” meddai Keith Stockdale o Gyfeillion y Ddaear. “Roedden ni’n dangos ein gwrthwynebiad i’r broses frwnt yma o gael nwy a fydd mewn gwirionedd yn ychwanegu at y CO2 yn ein hamgylchedd, yn amharu ar ddaeareg ac yn llygru ein dŵr ni.”

Mae mudiadau Cyfeillion y Ddaear, y Co-operative a WWF wedi mynegi eu pryderon nhw am y broses o chwistrellu dŵr a thywod i’r ddaear er mwyn rhyddhau nwy o’r graig islaw. Mae’n cael ei ystyried yn ddadleuol oherwydd yr effaith bosib ar yr amgylchedd ac ar ddaeareg ac eleni tarodd dau ddaeargryn ardal Blackpool, ar raddfa o 2.3 a 1.5, o ganlyniad i ffracio.

“Heip diwydiannol”

Fis yn ôl roedd adroddiad annibynnol ar gyfer Llywodraeth San Steffan yn argymell y dylai ffracio gael ei ganiatáu ym Mhrydain ar yr amod bod archwiliadau manwl yn cael eu gwneud o flaen llaw. Yr wythnos yma mae papur yr Independent yn adrodd fod gan y Llywodraeth amheuon dros fanteision ffracio, ac mae Plaid Cymru ym Mro Morgannwg wedi croesawu’r “tro pedol.”

“Rwy’n gobeithio y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus ym Mro Morgannwg yr wythnos hon yn rhoi ystyriaeth i’r newid agwedd tuag at ffracio gan Lywodraeth y DU” meddai Dr Ian Johnson, llefarydd Plaid Cymru dros Fro Morgannwg.

“Mae’n debyg y bu’r heip diwydiannol am botensial nwy siâl yng Nghymru yn achos o or-ddweud. Yn anffodus mae Llywodraeth Cymru wedi aros ar y ffens pan y dylant fod yn arwain y blaen ar ffracio a mynnu fod penderfyniadau dros ynni yn cael eu gwneud yng Nghymru, yn hytrach na gadael i bolisi gael ei lunio gan San Steffan.

“Dylem fod yn ymchwilio i well ffyrdd o greu ynni glan, gwyrdd ac adnewyddadwy o aber yr Hafren a dŵr Cymreig heb achosi niwed amgylcheddol hir-dymor i’n moroedd a’n tirwedd.”