Mae gwefan Twitter am ehangu’r nifer o ieithoedd sy’n cael eu cynnig ar y wefan ac yn gofyn i bobol wneud cais o blaid eu hiaith nhw.

Mae Twitter, sy’n caniatáu i bobol ‘drydar’ sylwadau byr, ar gael mewn 27 iaith ar hyn o bryd ac mae’r wefan am ehangu’r nifer hynny. Mae’n bosib trydar yn Gymraeg ar hyn o bryd ond nid yw’r wefan ei hun ar gael yn Gymraeg.

Ar hyn o bryd mae’r Gatalaneg yn un o’r ieithoedd sy’n cael eu cyfieithu gan dîm o gyfieithwyr gwirfoddol a fydd yn cyfieithu geiriau megis retweet a trends. Dywed Twitter eu bod nhw’n adolygu’n gyson yr ieithoedd maen nhw’n eu cefnogi.

Mae defnyddwyr Cymraeg wedi bod yn trydar er mwyn cael defnyddwyr i gofrestru’r Gymraeg yn un o’r ieithoedd newydd.

Dywedodd Glyn Wise, a fu ar Big Brother, mai “dwy eiliad gymrith hi” i lenwi’r ffurflen,  ac mae Carys Jones o Sir Benfro yn annog y Cymry i lobïo Twitter er mwyn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol ar y wefan.

Mae’n bosib gwneud cais o blaid y Gymraeg, neu unrhyw iaith arall, ar y dudalen yma:

http://translate.twttr.com/lang_request