Mae 80% o dir Cymru yn dir amaeth
Mae Llywydd undeb amaethwyr yn cyhoeddi heddiw adroddiad sy’n dangos faint o gyfraniad all ffermio ei wneud i economi Cymru.

Mae’r diwydiant amaeth yn dal i fod yn “flagur gwyrdd” sy’n dal i dyfu, meddai Ed Bailey, ac fe allai’r diwydiant fod o help i roi cic i’r economi yng Nghymru.

Mae ffermio’n cyfrannu £217m at economi Cymru, yn ôl adroddiad gan yr undeb amaeth, a’r diwydiant ffermio ydi prif gyflenwr y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru – sy’n werth £2.8bn.

Mae ffermio hefyd yn cyflogi 4.4% o boblogaeth waith Cymru, ac mae 17% arall yn gweithio i’r sector bwyd a diod.

Mae ffermio yn defnyddio 80% o holl dir Cymru.

 “Dydw i ddim eisiau aros yn y gorffennol, ond canolbwyntio ar yr oll y mae ffermwyr a thyfwyr yn ei gyfrannu i fywydau pobol y wlad yma bob dydd,” meddai Ed Bailey, Llywydd NFU Cymru.

“Ond dw i eisiau hefyd cydnabod y tro pedol anferth ydyn ni wedi ei weld, yn sicr yn ystod y deng mlynedd diwetha’. Does yna neb bellach yn amau fod angen sector ffermio sy’n effeithiol, yn gynhyrchiol, yn ymwybodol o’r amgylchedd, a’r gwerth am arian yr ydyn ni’n ei gynnig.

“Mae angen sicrhau fod Cymru a gweddill gwledydd Prydain yn dod yn fwy hunan-gynhaliol cyn belled ag y mae bwyd yn y cwestiwn,” meddai wedyn.

“Mae pa mor hunangynhaliol ydyn ni wedi gostwng 15% dros yr 20 mlynedd diwetha’, ond dw i’n gwybod y gall pawb wneud ei ran a gwneud gwahaniaeth go iawn. Trwy feddwl yn fwy lleol, fe allwn wneud yn siwr fod hyn yn digwydd.”