Cheryl Gillan
Mae disgwyl datganiad a Phapur Gwyrdd heddiw am ddyfodol seddi’r Cynulliad.

Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn egluro safbwynt Llywodraeth Prydain am newidiadau i’r drefn, wrth i nifer y seddi Cymreig yn San Steffan syrthio o 40 i 30.

Un argymhelliad tebygol i’w drafod fydd cael 30 o seddi uniongyrchol a 30 o seddi’n cael eu hethol trwy bleidleisio cyfrannol – PR – rhanbarthol, fel ar hyn o bryd.

Ond mae  Llafur, dan arweiniad cyn-Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi argymell system hollol wahanol gyda 30 o etholaethau dwy-sedd a’r cyfan yn cael eu hethol trwy bleidlais, dim ond y cynta’ sy’n ennill.

Fe allai hynny olygu cynnydd mawr yn nifer seddi’r Blaid Lafur, gan ei gwneud yn bosib iddi ennill mwyafrif llwyr. Mae’r pleidiau eraill eisoes yn gwrthwynebu.