Nikitta Grender

Mae’r heddlu wedi cael 12 awr ychwanegol i holi dyn yn y ddalfa mewn cysylltiad â llofruddiaeth y ferch ifanc feichiog Nikitta Grender.

Cafodd y dyn 26 oed ei arestio ddoe mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth erchyll yng Nghasnewydd.

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod ganddyn nhw, yn sgil yr amser ychwanegol, tan 10 o’r gloch heno i holi’r dyn ymhellach.

 Roedd diffoddwyr tân wedi cael hyd i gorff Nikitta Grender, 19 oed, ar ôl tân yn ei fflat ar ystad Broadmead Park, yn Llyswyry, Casnewydd, am 7.50 fore Sadwrn.

Datgelodd yr heddlu nos Sul ei bod hi wedi ei thrywanu a daeth i’r amlwg wedyn ei bod hi wedi marw cyn i’r tân gynnau.

Roedd Nikitta Grender o fewn pythefnos i roi genedigaeth i’w merch fach, Kelsey-May.

Mae’r dyn sydd wedi cael ei arestio wedi cael ei enwi gan bobl leol fel Carl Whant, sy’n byw ar stad y Bettws yng Nghasnewydd, rai milltiroedd oddi wrth gartref Nikitta Grender.

Mae’n gyfyrder i gariad Nikkita, sef Ryan Mayes, 18 oed, sy’n cael ei restru ar dudalen Facebook Carl Whant fel ffrind.

Deellir bod Carl Whant yn gyn-aelod o’r Gwarchodlu Cymreig a’i fod yn gweithio fel bownsar mewn gwahanol glybiau nos yng Nghasnewydd.

Yn y cyfamser, mae ymchwiliadau’r heddlu’n parhau gyda 50 o blismyn yn dal i weithio ar yr achos.