Gall dyfodol cownteri saith o orsafoedd Heddlu Dyfed Powys fod yn y fantol ar ôl i’r Llu gynnal adolgyiad mewnol sy’n dangos bod pobl yn cysylltu efo’r heddlu bellach mewn ffyrdd gwahanol.

Mae’r gorsafoedd yn Aberdaugleddau, Dinbych y Pysgod, Llanbedr Pont Steffan, Y Trallwng, Ystradgynlais a Rhydaman.

Fyddan nhw ddim yn cau yn gyfangwbl gan mai’r gwasanaeth cownter sydd dan ystyriaeth.

Dywed y Llu bod ystadegau yn profi mai nifer fechan sy’n mynd i orsafoedd er mwyn cysylltu efo’r heddluy dyddiau yma ac oherwydd hynny mae nhw yn bwriadu defnyddio a datblygu dulliau newydd o gysylltu efo’r cyhoedd.

Fe fyddan nhw yn gwneud hyn trwy ddefnyddio gorsafoedd teithiol, cynyddu’r deunydd o offer data symudol gan swyddogion, cynnal rhagor o syrjeris a chyd-weithio efo asiantaethau eraill.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Ian Arundale bod yn rhaid addasu er mwyn cynnal safon y gwasanaeth.

“Mewn cyfnod o gynni rhaid i ni ganolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd hwylus ac effeithiol i bobl gysylltu efo ni,” meddai.

Dywedodd Delyth Humfryes, Cadeirydd Awdurdod Heddlu Dyfed Powys ,nad oedd gan y LLu ddewis ond i newid y ffordd y mae’n darparu gwasanaethau oherwydd y toriadau yn y gyllideb oddi wrth Llywodraeth San Steffan.