Maesmynach Angerdd
Dim ond un ceffyl fydd yn cael cludo’r fflam Olympaidd ar ei thaith trwy wledydd Prydain, sef Cobyn Cymreig o Geredigion.

Mae’r fflam Olympaidd wedi cyrraedd Cernyw heddiw ar ôl cael ei chludo o wlad Groeg gan David Beckham a’r criw, a phan ddaw i Aberaeron – cadarnle’r Cobyn Cymreig – bydd yn cael ei chludo ar gefn ceffyl gan fridiwr lleol, Eric Davies o Gribyn.

“Mae’n anrhydedd i’r Cobyn Cymreig mai ef yw’r unig frîd sy’n cael cario’r fflam” meddai Eric Davies, sy’n Llywydd Cymdeithas y Cobiau a’r Merlod Cymreig eleni.

“Dim ond Dydd Mercher ges i gadarnhad wrth y trefnwyr ‘mod i’n cario’r fflam. Bydda i’n marchogaeth Maesmynach Angerdd, caseg  ddeuddeg oed.”

Nid yw marchogaeth a chario’r fflam ar yr un pryd yn poeni Eric Davies

“Rwy wedi bod yn hela a chario chwip, a buon ni’n perfformio sioe Twm Siôn Cati a bryd hynny buon ni’n marchogaeth a saethu dryllau ar yr un pryd.”

Dim tracwisg

Dywedodd Eric Davies fod rhaid i garwyr y fflam wisgo gwisg swyddogol.

“Bydd rhaid i fi wisgo crys-t swyddogol y Gemau, a mae rhaid i’r rhedwyr eraill wisgo tracksuit swyddogol hefyd ond gallwch chi ddim gwisgo tracksuit ar gefen ceffyl.

“Felly bydda i’n gwisgo trowsus gwyn a bŵts marchogaeth.

“Mae’n dysteb i natur y cobyn ei fod e’n ddigon tawel i gario’r fflam trwy drof.”

Bydd y fflam yn cyrraedd Aberaeron toc wedi 5 o’r gloch ar ddydd Sul 27 Mai.