Gethin Jones
Fe gyhoeddwyd heddiw y bydd y cyflwynydd teledu Gethin Jones o Gaerdydd yn ymuno â’r rhaglen Daybreak ar ITV fel gohebydd.

Mae disgwyl i gyn-gyflwynydd Blue Peter, sy’n 33 oed, ddechrau ar ei waith ar 21 Mai.

Fe fydd yn ymuno â’r cyflwynydd arall o Gymru Aled Jones, 41, sef cyd-gyflwynydd newydd y rhaglen foreol ynghyd â Lorraine Kelly.

Cafodd Daybreak ei lansio ym mis Medi 2010 i gymryd lle GMTV gyda’r cyflwynwyr Adrian Chiles a Christine Bleakley wrth y llyw.


Aled Jones
Ond oherwydd bod nifer y gwylwyr yn siomedig, fe adawodd y ddau ym mis Rhagfyr y llynedd, gyda Dan Lobb a Kate Garraway yn cyflwyno dros dro.

Mae disgwyl i  Lorraine Kelly ac Aled Jones ymuno â’i gilydd ar y soffa yn ddiweddarach yn y flwyddyn.