Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi lansio ymgynghoriad ar sut mae disgwyl i sefydliadau ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae’r Comisiynydd yn ymgynghori ar Safonau a fydd yn disodli cynlluniau iaith.

Bydd dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus i gydymffurfio â’r safonau – y cyrff sydd eisoes â chynlluniau iaith a rhai cyrff eraill megis darparwyr tai cymdeithasol. Os na fydd y cyrff yn cydymffurfio gall y Comisiynydd roi dirwy o hyd at £5,000 iddyn nhw.

Dechreuodd Meri Huws ar ei swydd yn Gomisiynydd yn nechrau Ebrill a dywedodd nad oes rheidrwydd ar y Comisiynydd i gynnal ymgynghoriad ond ei bod hi’n “teimlo ei bod hi’n bwysig fod gan bobl y cyfle i ddweud beth yw eu gofynion pan mae’n dod i ddefnyddio’r Gymraeg.”

Cafodd corff Comisiynydd y Gymraeg ei greu gan Fesur Iaith 2011 ac mae wedi cymryd llawer o gyfrifoldebau Bwrdd yr Iaith, yn arbennig dros y sector cyhoeddus.

“Ysgogi’r drafodaeth”

Ychwanegodd Meri Huws fod y safonau drafft wedi cael eu llunioat fwriad ysgogi’r drafodaeth” ac mae’n annog y cyhoedd i ymateb.

“A yw’r safonau drafft yn ddigon uchelgeisiol? A ydynt yn ymarferol? A ydynt yn glir ac yn ddigon syml i gael effaith?” gofynna Meri Huws.

Mae disgwyl iddi gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru, a fydd yn gyfle i sefydliadau ac unigolion i edrych ar y safonau a gofyn cwestiynau  yn ogystal ag am ei rôl fel Comisiynydd.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 11 Awst eleni – sef diwrnod olaf Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.

Mae’n bosib cael mwy o wybodaeth a chyflwyno barn trwy wefan y Comisiynydd: www.comisiynyddygymraeg.org