Dywed AC Plaid Cymru y byddai colli 45 o swyddi yn hufenfa Rachel’s yn Aberystwyth yn “ergyd anferth” i’r ardal.

Daw sylwadau Elin Jones, AC Ceredigion, ar ol i berchnogion yr hufenfa, Lactalis o Ffrainc, ddweud eu bod yn ystyried ail-strwythuro’r busnes.

Dywedodd Elin Jones  bod Rachel’s, sy’n cynhyrchu iogwrt organig,  yn gwmni sydd a’i wreiddiau yn Aberystwyth a bod parch mawr tuag ato fel cyflogwr yng Ngheredigion.

“Rydym i gyd yn gwybod ei bod yn gyfnod anodd o ran yr economi a bod cwmniau’n gwneud popeth gallan nhw i gadw i fynd. Rydw i’n mawr obeithio nad yw cael gwared â swyddi yn arwydd bod y cwmni yn bwriadu symud eu ffatri o Aberystwyth.

“Fe fyddaf yn codi’r mater gyda’r gweinidog i ofyn iddo beth mae’n bwriadu ei wneud i sicrhau bod pob cymorth posib yn cael ei roi i’r cwmni er mwyn sicrhau ei phresenoldeb yn Aberystwyth ac i’r gweithwyr sy’n wynebu colli eu gwaith,” meddai.