Dyfodol cefn gwlad yn y fantol
Fe fydd un o gynghorau Comisiwn Ewrop yn trafod newidiadau i bolisi amaethyddol CAP heddiw, gyda’r bwriad o roi mwy o bwyslais ar wobrwyo ffermwyr ‘gwyrdd’.

 Mae undeb ffermwyr, NFU Cymru, yn dweud fod angen mwy o amser i ystyried yr argymhellion cyn eu derbyn a newid y ffordd y mae ffermwyr yn cael eu talu. Maen nhw’n poeni y gallai ffermwyr yng Nghymru gael eu cosbi dan y drefn newydd o ddosbarthu a defnyddio tiroedd.

 “Ryden ni wedi bod yn llafar iawn ac yn feirniadol iawn o fwriad Comisiwn Ewrop i roi gwedd fwy ‘gwyrdd’ i’r polisi CAP,” meddai Ed Bailey, Llywydd NFU Cymru.

“Felly, ryden ni’n falch iawn fod y Comisiwn yn cymryd camrau i ateb ein pryderon ac yn trafod ein pryderon. Mae hynny’n newydd da.”

Fe ddaeth Comisiynydd Amaeth Ewrop i annerch cynhadledd yr NFU ym mis Chwefror eleni, ac roedd wedi rhoi ei air na ddylai ffermwyr gael eu cosbi pan fyddai’r argymhellion newydd yn cael eu derbyn yn rhan o’r cynllun CAP.

 

Beth yw’r broblem?

Mae dogfen drafod Comisiwn Ewrop ar bolisi ffermio CAP yn awgrymu newid y ffordd y mae tir yn cael ei ddisgrifio a sut y mae’n cael ei ddefnyddio. Fe allai hyn effeithio ar y ffordd y mae ffermwyr yn cael eu talu am ddefnyddio’u tiroedd.

* Pe byddai’r argymhellion yn cael eu derbyn, fe fyddai’r term “tir glas parhaol” gynnwys ardaloedd o ffermydd sydd wedi cael eu torri allan o’r cylch tyfu cnydau ers wyth mlynedd neu fwy.

* Dylid gosod 7% o dir âr ar gyfer canolbwyntio ar faterion amgylcheddol, yn ôl y papur trafod. Mae hyn yn peri pryder i undebau ffermwyr sy’n methu deall sut y bydd tir ffrwythlon yn cael ei neilltuo ar un llaw, tra bod mwy o bwysau’n cael ei roi ar ffermwyr i gynhyrchu mwy o fwyd ar y llall.

* Mae NFU Cymru yn dweud y byddai CAP ar ei newydd wedd yn parhau i gosbi nifer o ffermwyr oherwydd ei fod yn nodi pa gnydau sydd i’w tyfu ymhle.