Comisiynydd iaith Meri Huws
Mae blogiwr o Wrecsam wedi anfon cwyn at y Comisiynydd Iaith oherwydd iddo dderbyn gwahoddiad uniaith Saesneg i ddathliadau Jiwbili’r Frenhines.

Mewn sylwadau ar flog Plaid Cymru Wrecsam, mae’r Cynghorydd Arfon Jones yn dweud sut y bu iddo, rai wythnosau’n ôl erbyn hyn, dderbyn gwahoddiad i Gadeirlan Llanelwy i ddathlu gydag Arglwydd Raglaw Clwyd, Trevor Jones, drigain mlynedd y Frenhines Elisabeth II ar ei gorsedd.

“Gwahoddiad uniaith Saesneg oedd o, ac mi gwynais yn syth i’r Arglwydd Raglaw ei hun (dim ymateb),” meddai Arfon Jones ar y wefan.

Fe gwynodd wedyn i Gyngor Sir Fflint “gan mai nhw sy’n darparu cefnogaeth weinyddol i’r Arglwydd Raglaw”.

Ond, meddai wedyn, yr ymateb ddaeth gan yr awdurdod oedd dweud “bod dim angen iddynt ddarparu gweinyddiaeth yr Arglwydd Raglaw yn Gymraeg gan nad oedd yn rhan o waith y Cyngor, ac felly doedd Deddf yr Iaith na’r Mesur… ddim yn berthnasol”.

Cwyn i’r Comisiynydd

“Gan fy mod yn anhapus ag ymateb y cyngor sir,” meddai Arfon Jones, “cwynais i’r Comisiynydd Iaith.”

Y sefyllfa ar hyn o bryd, yn ôl Arfon Jones, ydi bod y Comisiynydd wedi gofyn am farn gyfreithiol er mwyn gweld os oes gofyn i awdurdodau lleol sy’n darparu gwasanaeth gweinyddol i’r Arglwydd Raglaw gydymffurfio â Chynllun Iaith Cyngor Sir y Fflint.

“Gawn ni weld faint o ddannedd sydd gan y Comisiynydd yn fuan!” meddai Arfon Jones wedyn.