Leighton Andrews
Mae Gweindog Addysg Cymru wedi rhybuddio bod  ‘eithriadoldeb Seisnig’ Llywodraeth San Steffan yn bygwth undod y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Leighton Andrews bod y Llywodraeth Glymblaid yn diystyrru cyrff datganoledig wrth lunio polisiau.

“Mae’r Llywodraeth Glymblaid yn cymryd ei bod yn siarad dros y DU ond mae’n amlwg nad ydyn nhw wedi ystyried eu polisiau’n ofalus na’r goblygiadau i weddill y DU, yn enwedig lle mae eu polisiau ar gyfer y DU yn galw am gyd-weithrediad gan y cyrff datganoledig,” meddai.

Wrth annerch cynulleidfa yn Aberystwyth neithiwr dywedodd:  “Rwy’n credu bod dewis gynnon ni. Gweledigaeth newydd i’r DU, fel y mae Prif Weinidog Cymru wedi ei gynnig, neu bolisi o eithriadoldeb Seisnig.”