Mae’r Prif Weinidog wedi dweud wrth y BBC fod Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried prynu cyfran o Faes Awyr Caerdydd.

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi colli miliwn o deithwyr ers 2007, ac eleni dywedodd Carwyn Jones na fyddai am i bobl gyrraedd Cymru trwy’r maes awyr gan fod y lle’n rhoi argraff anffafriol o’r wlad.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen BBC Cymru, Week in Week out, dywed Carwyn Jones y byddai prynu cyfran yn y maes awyr yn golygu y gallai Llywodraeth Cymru fuddsoddi ynddo. Mae’r maes awyr yn berchen i gwmni Abertis o Gatalonia ac mae’n debyg eu bod nhw’n agored i gynigion am y maes awyr.

Y bore ’ma dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw am weld Maes Awyr Caerdydd yn tyfu a bod neb yn fodlon gyda’r sefyllfa bresennol.

“Rydym ni’n teimlo fod angen cymryd cyfleon a thyfu’r maes awyr yn gyflym” meddai.

“Mae angen i ni sicrhau mwy o lwybrau hedfan o Gaerdydd a denu mwy o gwmniau awyr a rydym ni’n edrych ar yr holl opsiynau. Mae’n galonogol fod cwmni Vueling o Sbaen yn hedfan o Gaerdydd i Barcelona erbyn hyn.”

Ym mis Mehefin bydd Vueling yn hedfan hefyd o Gaerdydd i Alicante a Palma de Mallorca.

Mae Carwyn Jones wedi dweud y bydd grŵp tasg yn ymgynnull er mwyn mynd i’r afael â materion maes awyr Caerdydd a bydd yn cyhoeddi mwy o fanylion am y grŵp yn fuan.

Mae niferoedd teithwyr y maes awyr wedi disgyn yn benodol ers i gwmni BMI Baby dynnu allan o Gaerdydd. Yn 2007 aeth 2.1m o bobol trwy’r maes awyr ond mae’r nifer yna wedi haneru erbyn hyn.