Prifysgol Aberystwyth
Mae canolfan ymchwil newydd wedi’i hagor gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews heddiw, a’i phwrpas ydi dod o hyd i ffordd o fwydo poblogaeth y byd sy’n cynyddu.

Mae’r adeilad newydd ar gyfer Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ar gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth yn un o ddau ddatblygiad a agorwyd yr un diwrnod. Yn y ganolfan arall, sef y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ffenomeg Planhigion ym Mhlas Gogerddan, bydd tŷ gwydr mwyaf datblygedig y DU a bydd yn ganolbwynt i sefydliad newydd sef y Sefydliad Rhyngwladol mewn Bridio Planhigion.

Mae Prifysgol Aberystwyth a’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol wedi buddsoddi £26 miliwn yn y cynllun ac mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £16.5 miliwn mewn datblygiadau cyfalaf diweddar sy’n gysylltiedig â Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a’r Gynghrair Biowyddorau a’r Amgylchedd ehangach sy’n bodoli rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor.

“Yng Nghymru, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yw un o’n canolfannau ymchwil mwyaf blaenllaw,” meddai Leighton Andrews. “Mae llawer o’r gwaith y mae’r sefydliad yn ei gyflawni yn wirioneddol o safon fyd-eang ac fe fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobol ledled y byd.

“Mae’r wyddoniaeth a ddefnyddir yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn cynorthwyo pobl yn y byd sy’n datblygu i oroesi sychder a chnwd sydd wedi’i heintio, i fynd ati i wella diogelwch bwyd yn y cartref ac i alluogi busnesau Cymru i elwa ar gyfleoedd masnachol newydd,” meddai Leighton Andrews.

“Yn ogystal, mae gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gyfraniad mawr i’w wneud at ddau o feysydd yr her fawr a gyhoeddwyd yn ein Strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru – gwyddorau bywyd a carbon isel, ynni a’r amgylchedd.”